Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.17 - 11.52 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC John Griffiths AC Altaf Hussain AC Elin Jones AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Julie Bishop, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Quentin Sandifer, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Gillian Richardson, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Dr Sara Hayes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Glerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Rhys Morgan (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafodaeth ar drefn ystyried trafodion Cyfnod 2
1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried trafodion Cyfnod 2 y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) mewn egwyddor.
2 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar.
3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 2
3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan yr Athro Mark Bellis.
3.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
3.3 Cytunodd y tystion i ddarparu nodyn ar yr eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:
· y cydweithio rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn annog gweithgarwch corfforol i wella iechyd pobl leol;
· eu barn ar p'un a ddylid cynnig cymhelliant ariannol er mwyn helpu awdurdodau lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus;
· eu barn ar gyflwyno cyfyngiad oedran gofynnol ar gyfer tyllu rhannau o'r corff;
· unrhyw fesurau rheoli tybaco ychwanegol y dylid ystyried eu cynnwys yn y Bil; ac
· unrhyw dystiolaeth sy'n dangos effaith anweddau gweddilliol ac anweddau trydydd-law o e-sigaréts.
4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 3
4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Cofnodion y cyfarfodydd ar 17 a 25 Mehefin 2015
5.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 a 25 Mehefin 2015.
6 Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Blaenraglen waith y Pwyllgor.
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amlinelliad o'r flaenraglen waith ar gyfer mis Medi i fis Hydref 2015, a chytunodd i ddychwelyd at yr eitem hon yn y dyfodol.
8.2 Yn sgil sylw'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn bwriadu cynnig penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) yn nechrau tymor yr hydref, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2.
8.3 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer mis Tachwedd 2015 i fis Mawrth 2016, a chytunodd i ddychwelyd at yr eitem hon yn y dyfodol.